Rhif y Ddeiseb: P-06-1406

Teitl y ddeiseb:  Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Testun y ddeiseb: Mae Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru wedi nodi methiannau sylweddol gan awdurdodau addysg lleol o ran cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer

1) Nodi ADY

2) Cwblhau Cynlluniau Datblygu Unigol

3) Cydymffurfio â gorchmynion tribiwnlys

Credwn y dylai awdurdodau addysg lleol fod yn atebol am y methiannau hyn.  Credwn y dylai fod cosbau ariannol i'r awdurdodau addysg lleol am y methiannau hyn.

1.        Cyflwyniad

Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ar 4 Mawrth ar gyfer ei drafodaeth ar ddeiseb P-06-1392 Diwygio'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).. Roedd y papur briffio hwnnw’n cynnwys gwybodaeth gefndir am y diwygiadau ADY a'r materion sydd wedi codi yn ystod gwaith craffu’r Senedd. Yn hytrach nag ailadrodd yr holl wybodaeth honno yma, efallai yr hoffai Aelodau gyfeirio at y papur briffio blaenorol a ddarparwyd yn gynharach y mis hwn i gael gwybodaeth gyffredinol am ddiwygio ADY.

Mae llythyr y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ynglŷn â’r ddeiseb hon yn cydnabod bod diffyg cysondeb yn y modd y caiff y Ddeddf a’r Cod ADY eu rhoi ar waith ond “Nid yw cosbau ariannol [ar gyfer awdurdodau lleol] yn cael eu hystyried,” meddai.

2.     Amserlenni gofynnol ar gyfer cyhoeddi penderfyniadau am Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynlluniau Datblygu Unigol

O ran gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r ddeiseb hon, mae adran 4(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cod ADY (a gyhoeddwyd yn 2021) bennu amserlenni ar gyfer ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol, a rhaid i’w penderfyniadau ynghylch a oes gan ddysgwr ADY gael eu gwneud o fewn yr amserlenni hyn ac, os yw’n berthnasol, rhaid iddynt baratoi a chyhoeddi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) o fewn yr amserlenni hefyd,

2.1.          Amserlenni ar gyfer ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach

Mae'r Cod ADY yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion naill ai benderfynu nad oes gan ddysgwyr ADY neu roi CDU iddynt cyn pen 35 diwrnod ysgol (para 12.12 a 12.21 o'r Cod ADY). Mae amserlen ofynnol debyg ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach, sef 35 diwrnod yn ystod y tymor (para 16.16 a 16.26).

Nid oes angen i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach gydymffurfio â’r amserlen hon os yw’n anymarferol iddynt wneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth.

2.2.        Amserlenni ar gyfer awdurdodau lleol

Os daw i sylw awdurdod lleol fod gan blentyn/dysgwr ADY o bosibl, er enghraifft os yw’r plentyn yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ac nad yw yn yr ysgol, neu os yw ysgol yn cyfeirio’r achos at yr awdurdod lleol oherwydd ei natur gymhleth, mae gan yr awdurdod lleol 12 wythnos i benderfynu nad oes gan y dysgwr ADY neu baratoi CDU (para 11.17, 11.24, 12.63 a 12.75 o’r Cod ADY).

7 wythnos yw’r cyfnod hwn os yw'r awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad ysgol ynghylch ADY, er enghraifft os yw rhiant wedi gofyn i’r awdurdod wneud hynny.

Gall yr awdurdod lleol hefyd gyfarwyddo ysgol i baratoi a chynnal CDU ar gyfer dysgwr, a rhaid i hyn oll ddigwydd cyn pen 12 wythnos (para 12.96).

2.3.        Eithriad i amserlenni

Nid oes angen i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach gydymffurfio â’r amserlen hon os yw’n anymarferol iddynt wneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth. Yn ei lythyr, mae’r Gweinidog yn dweud y dylai awdurdod lleol ysgrifennu at y teulu, cyn gynted â phosibl, yn egluro’r sefyllfa os yw’n penderfynu bod yr eithriad i’r amserlen yn berthnasol (yn unol â pharagraff 1.51 o’r Cod ADY).

Mae paragraffau 1.41 i 1.51 ym mhennod ragarweiniol 1 y Cod ADY yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar sut i ddehongli’r amserlenni. Yn benodol, mae paragraffau 1.48 i 1.51 yn rhoi arweiniad ar sut y dylid cymhwyso'r eithriad i'r amserlenni.

3.     Apelio i’r Tribiwnlys

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru (y 'Tribiwnlys') yn gwrando ar achosion apêl gan ddysgwyr a theuluoedd yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan y system ADY. Mae'r Tribiwnlys hefyd yn gweithredu o dan ei enw blaenorol, sef y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC), mewn perthynas ag apelio o dan y system AAA, na fydd yn dirwyn i ben yn llwyr tan fis Awst 2025.

O ran y system ADY newydd, mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwrando ar achosion apêl yn erbyn penderfyniadau gan awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach (nid ysgolion gan y byddai teuluoedd yn gofyn i awdurdodau lleol edrych eto ar benderfyniadau ysgolion ac yna’n apelio yn erbyn yr hyn y bydd, neu na fydd, yr awdurdod lleol yn ei wneud).

Gall y Tribiwnlys wrthod yr apêl, neu ei gadarnhau drwy orchymyn bod gan ddysgwr ADY. Gall hefyd orchymyn bod CDU yn cael ei baratoi neu fod CDU yn cael ei adolygu, neu orchymyn bod penderfyniad yn cael ei ailystyried mewn perthynas â sylwadau’r Tribiwnlys.  Gall y Tribiwnlys hefyd wneud argymhellion i fyrddau iechyd sy'n gorfod ymateb gan esbonio a fyddant yn eu dilyn ac os na fyddant, rhaid iddynt ddweud pam.

Mae gwybodaeth am y broses apêl ar gael ar wefan y Tribiwnlys, gan gynnwys canllawiau penodol.

3.1.          Amserlenni ar gyfer cydymffurfio â gorchmynion y Tribiwnlys

Mae Gorchmynion Tribiwnlys yn gyfreithiol rwymol, er nad yw'r Tribiwnlys ei hun yn eu gorfodi.Rhaid i deuluoedd fynd drwy'r llysoedd neu gwyno i Lywodraeth Cymru.

Fel arfer, y terfynau amser ar gyfer cydymffurfio â Gorchymyn Tribiwnlys yw 7 wythnos i awdurdodau lleol, a 35 diwrnod yn ystod y tymor i sefydliadau addysg bellach (ond rhaid cydymffurfio â rhai gorchmynion ar unwaith). Mae canllawiau'r Tribiwnlys ar Orchmynion Apêlyn esbonio’r sefyllfa ymhellach.

Mae gan fyrddau iechyd chwe wythnos i ymateb i argymhellion y Tribiwnlys.

4.     Gwaith craffu’r Senedd

Fel y nodwyd yn ein papur briffio blaenorol, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y broses o weithredu’r  diwygiadau ADY (ynghyd â diwygiadau mawr eraill yn ymwneud â’r cwricwlwm) drwy gydol y Senedd hon.

Yn ystod trafodaeth y Pwyllgor ar 4 Mawrth ar y ddeiseb yn galw am ddiwygio'r Cod ADY, cyfeiriwyd at ddeisebau eraill yn ymwneud ag ADY sydd wedi’u hystyried.  Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb mewn perthynas â’r Cod ADY, ac mae’n bosibl y gellid cyfeirio hefyd at y deisebau eraill yn ymwneud ag ADY.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.